Ein gwasanaethau
Llinell gymorth
Rydym yn cynnig Llinell Gymorth gyfrinachol sy’n cwmpasu’r Deyrnas Unedig gyfan, wedi’i staffio gan ein Nyrsys Arbenigol, i unrhyw un sy’n bryderus am neu wedi’i effeithio gan ganser y prostad: 0800 074 8383*
I anfon e-bost at y Llinell Gymorth, defnyddiwch ffurflen gyswllt y Llinell Gymorth
Cefnogaeth un i un
Weithiau, bydd siarad â rhywun sydd wedi cael yr un profiad yn gymorth. Pa un ai a oes gennych ganser y prostad neu os ydych yn aelod o deulu neu’n ffrind i rywun sy'n byw â chanser y prostad, gallwn eich cynorthwyo i gysylltu ag un o'n gwirfoddolwyr cefnogol, sydd wedi'u hyfforddi i wrando a chynnig cymorth. Fe wnawn eich paru â gwirfoddolwr ar sail eich amgylchiadau a’ch pryderon.
Cymuned ar-lein
Gallwch ymuno â negesfwrdd ein haelodau ble bydd pobl yn trafod amrywiaeth helaeth o faterion sy’n ymwneud â chanser y prostad mewn amgylchedd ar-lein croesawus.
*Gellir monitro galwadau at ddibenion hyfforddiant. Fodd bynnag, cedwir cyfrinachedd rhwng galwyr a Prostate Cancer UK. Mae’n flin gennym na allwn ateb ymholiadau gan ymwelwyr o dramor, ond gellir llwytho ein holl gyhoeddiadau i lawr o'n gwefan.